Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Tachwedd 2021
Amser:
14.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Marc Wyn Jones
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddHinsawdd@senedd.cymru
------
Rhag-gyfarfod preifat (13.45-14.00)
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae'r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv.
Cyfarfod cyhoeddus (14.00-15.00)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(14.00)
2 Addasu hinsawdd
(14.00-15.00) (Tudalennau 1 - 25)
Y Farwnes Brown o Gaergrawnt, Cadeirydd y Pwyllgor Addasu - Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) y DU
Dogfennau atodol:
Briff Ymchwil
Cyflwyniad oddi wrth Y Farwnes Brown, Cadeirydd y Pwyllgor Addasu -
Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) y DU (Saesneg yn unig)
3 Papurau i'w nodi
(15.00)
3.1 Cyhoeddi strategaeth Sero Net Llywodraeth y DU
(Tudalennau 26 - 27)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gwir Anrh. Greg Hands AS Gweinidog Gwladol, ynghylch cyhoeddi strategaeth Sero Net Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig)
3.2 Bil Amgylchedd y Deyrnas Unedig
(Tudalennau 28 - 30)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Gweinidog Materion
Gwledig, y Gogledd a'r Trefnydd mewn perthynas â Bil
Amgylchedd y DU
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd mewn
perthynas â Bil Amgylchedd y DU (Saesneg yn unig)
3.3 Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23
(Tudalennau 31 - 36)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23
3.4 Rheoli’r amgylchedd morol
(Tudalen 37)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â rheoli'r amgylchedd morol
3.5 Llywodraethu amgylcheddol
(Tudalennau 38 - 42)
Dogfennau atodol:
Papur gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â llywodraethu amgylcheddol yn dilyn eu sesiwn dystiolaeth gyda'r Pwyllgor ar 30 Medi 2021
3.6 Targedau Natur
(Tudalennau 43 - 55)
Dogfennau atodol:
Papur gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â thargedau natur yn dilyn eu sesiwn dystiolaeth gyda'r Pwyllgor ar 30 Medi 2021
3.7 Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf
(Tudalennau 56 - 57)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Cadeirydd, y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb yn galw am ymchwiliad i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020
Egwyl (15.00-15.10)
Sesiwn Anffurfiol (15.10-16.00)
Adborth gan Climate Cymru yng Nghynhadledd y Cenhedloedd
Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn Glasgow gyda Sam Ward, Rheolwr Ymgyrch – Climate Cymru